Dewch gyda ni i ddarganfod Ynys Echni drwy gyfrwng gosodiad ffilm hudolus.
Wedi ei greu gan SheWolf, cwmni sy’n rhoi llwyfan i anabledd ac sy’n dod â thirwedd yn fyw trwy berfformio, mae’r gosodiad hwn yn cyfleu cyfnod o flwyddyn ar yr ynys hon oddi ar arfordir Caerdydd - ynys sy’n wynebu bygythiad oherwydd cynnydd yn lefel y môr.
Mae’r darn o waith yn ymateb i’r lleoliad ac yn adlewyrchu straeon cudd tirwedd Ynys Echni gan ddod â nhw yn fyw - wedi ei gorchuddio gan flodau gwylltion yn tyfu trwy adfeilion sydd wedi eu gadael ar ôl gan drigolion dros ganrifoedd, a’u deffro yn nychymyg y cyhoedd.
Wedi ei hadrodd gan lais a chorff dynes unig mewn poen cronig, dros gyfnod o flwyddyn, dyma stori bersonol sy’n cyfuno’r corff bregus a daear wedi ei ddifrodi - taith i chwilio am dawelwch ym mhrydferthwch a chreulondeb Ynys Echni.
Profiad am ddim – galwch heibio yn ystod ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol, Llais