Mae’n ddiwrnod newydd yn ysgol Sittingbottom ac mae Frog yn edrych am le i eistedd, ond mae gan Cat syniadau eraill ac mae Dog yn dilyn gorchmynion...
Prin y gall unrhyw un wybod fod anhrefn ar y gweill... Pwy fyddai’n gwybod bod yna cymaint o reolau, a beth fydd yn digwydd pan fydd Frog yn gyfrifol?
Ymunwch â Frog, Cat a Dog yn yr addasiad llwyfan newydd llawn bwrlwm yma o lyfrau hynod boblogaidd Kes Gray a Jim Field, Oi Frog!, Oi Dog!, ac Oi Cat! Disgwyliwch ganeuon, pypedau, chwerthin a llwyth o odli.
“This zany, silly, good-natured show had my two and a half-year-old jumping out of his seat”
“A wild time for fans of rhyme”
Wedi’i seilio ar y gyfres o lyfrau darluniau hynod boblogaidd gan Kes Gray a Jim Field
Wedi'i addasu i'r llwyfan gan Emma Earle, Zoe Squire, Luke Bateman a Richy Hughes
Cynhyrchiad Kenny Wax Family Entertainment
Canllaw oed: 3+
Perfformiad ymlaciedig:
9 Mai 10.30am
Hyd y perfformiad: tua 1 awr (dim egwyl)
BABANOD AR LINIAU
Ar gael i blant dan 2 gydag oedolyn yn eu gwarchod. Os hoffech chi fynychu gyda phlant dan 2 oed, sicrhewch eich bod yn dewis ein tocyn Safonol a Babi am £2 ychwanegol.
YSGOLION
Tocynnau am £10.
Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.