Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: Jenůfa

5, 12 + 18 Mawrth 2022

Theatr Donald Gordon

Mae gan Jenůfa gyfrinach. Mae hi ar fin cael plentyn y tu allan i briodas, ac mae hi eisiau priodi'r tad cyn i'r gyfrinach gael ei datguddio, ond mae gan ei llysfam gynlluniau eraill mewn golwg. Mae gan ei gweithredoedd byrbwyll ganlyniadau ofnadwy i Jenůfa.

Wedi ei gosod ar draws saith mis, mae'r ddrama'n datblygu, ac ar ddiwrnod priodas Jenůfa mae'r gwirionedd am yr hyn sydd wedi digwydd yn cael ei ddatguddio.

Mae Jenůfa wedi swyno cynulleidfaoedd am ganrif gyfan gyda'r stori dorcalonnus hon am obaith, cariad ac anobaith. Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, sy'n arwain cynhyrchiad llwyddiannus Katie Mitchell, a ddisgrifiwyd fel 'y mwyaf pwerus eto' pan aeth y cynhyrchiad ar daith ddiwethaf.

wno.org.uk/jenufa
#WNOjenufa

Cenir mewn Tsieceg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

Amser cychwyn:
Gwe + Sad 7.15pm

Hyd y perfformiad: Tua dwy awr a 25 munud (gydag un egwyl)

CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10% 
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15% 
Yn gymwys i'r 4 pris drutaf.
Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.

Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.

CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED

Tocyn am £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon