Ar yr wyneb, mae’n freuddwyd o briodas i briodfab a’i briodferch ifanc, brydferth - ond y tu ôl i’r ffasâd, mae gwirionedd creulon.
A hithau ar ei phen ei hun ac wedi’i bradychu, mae byd Butterfly yn chwalu o’i chwmpas wrth i’w hunig gyfle am ryddid droi’n garchar. Mae ei hanobaith a’i phoen yn dwysáu wrth iddi frwydro i oroesi, gyda chanlyniadau difrifol.
Mae Madam Butterfly yn stori bwerus am gariad annychweledig, poen dynol a dioddefaint, gyda cherddoriaeth ogoneddus Puccini’n dwysáu’r cyfan yn rhagorol, i gynnig noson o ddrama ac emosiwn. Wedi’i ysbrydoli gan dirlun ffantasi Puccini o bleserau ecsotig, mae cynhyrchiad newydd Lindy Hume yn dehongli stori enwog Butterfly drwy brism dystopaidd.
wno.org.uk/butterfly
#WNObutterfly
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Amser cychwyn:
Mer + Sad 7.15pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 45 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU
Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Yn gymwys i'r 4 pris drutaf.
Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED
Tocyn am £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.