Ar y cwrs hyfforddi hwn sy'n dau ddiwrnod o hyd, byddwch yn dysgu sut i greu rhaglen radio neu bodlediad.
Byddwch hefyd yn dysgu am y mathau gwahanol o gynnwys radio, sut i hel a chreu straeon newyddion, a chreu recordiadau o ansawdd uchel o’ch cartref. Rhowch gynnig ar gyflwyno, cyfweld a thrafod pynciau sydd o bwys i chi.
P’un ai’ch bod chi wrth eich bodd â radio a phodlediadau, neu â dim profiad o’r cyfrwng, mae’r cwrs yma wedi’i deilwra i’ch cefnogi chi, beth bynnag eich lefel o brofiad.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae croeso i’r cyfranogwyr ymuno â thîm Radio Platfform – i gyflwyno, creu sioeau ar gyfer yr orsaf ac ymwneud â digwyddiadau ecsgliwsif i aelodau Radio Platfform.
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.
PRYD?
2 – 3 Tachwedd, 11am – 4pm bob dydd.
Unwaith i chi gofrestru, byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.
Cynhelir dwy sesiwn ar y dyddiadau canlynol: 2 Tachwedd a 3 Tachwedd, a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i'ch basged i archebu'ch lle ar y cwrs cyfan.
Cyfyngiad oedran: 14 – 25 oed
YNGLYN Â’N CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.