Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rhod Gilbert: The Book of John

1 + 2 Ebrill 2022

Theatr Donald Gordon

Mae peth amser wedi mynd heibio, ond mae’r digrifwr Cymreig arobryn yn ôl, gyda sioe fyw newydd sbon. Yn y saith mlynedd ers iddo berfformio stand-yp ddiwethaf, mae llawer wedi digwydd i Rhod. Bron popeth yn s**t.

Pan yr oedd ar fin bwrw adeg isel yn ei fywyd, cwrddodd ddyn… o’r enw John.

Mae’r sioe yma’n dangos Rhod mor ddoniol ag erioed, ond yn wahanol i’r arfer. Yn gignoeth, yn bersonol ac yn hollol onest; dim mwy o gelwyddau, dim mwy o nonsens.

“Britain's crossest comic roars back in style. Hilarious tour-de-force”

The Telegraph

Estynnwyd y daith oherwydd galw mawr. Mae’r perfformiad yma’n cael ei recordio i gael ei gyhoeddi.

Fel y gwelir ar 'Rhod Gilbert’s Work Experience', ‘'Would I Lie to You?’, 'Taskmaster’, ‘Qi’, 'Live at The Apollo', 'Have I Got News for You?’, a llawer mwy…

“Volcanic, high-octane humour. Uproariously funny”

The Guardian

Canllaw oed: 16+ (gall y cynhyrchiad hwn gynnwys iaith gref)

Amser cychwyn: 8pm

Uchafswm o 6 tocyn bob person

Hyd y perfformiad: Tua 2 hwr (yn cynnwys un egwyl)

Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon