Yn y dyfodol agos, mae busnes technegol newydd, Figital, yn ceisio creu’r newyddbeth mawr newydd; y peth nad oedden ni’n gwybod ein bod ei eisiau ond sydd ei wir angen arnom, yn ôl pob tebyg. Y bechingalw newydd, neu Bob.
Mae yna un broblem. Nid yw’n gweithio’n iawn eto... ac nid ydyn ni’n gwybod beth ydyw, mewn gwirionedd. Ac nid ydyn ni wedi meddwl o ddifrif am ganlyniadau’r dechnoleg rydyn ni ar fin ei rhyddhau. Mae’n mynd i newid popeth.
“INNOVATIVE, IMAGINATIVE AND TOTALLY IMMERSIVE.”
Mae the_crash.test, sy’n stori Frankenstein ar gyfer ein hoes ni, yn olwg dywyll, chwareus ar ein perthynas â thechnoleg, sy’n cynnwys pypedwaith cipio symudiad, tafluniad ar raddfa fawr, cyfansoddiad gwreiddiol a chast cynhwysol o berfformwyr ar y llwyfan a thrwy gyswllt fideo, i gynulleidfaoedd wyneb-yn-wyneb ac ar-lein.






Canllaw oed: 14+
Mae’r cynhyrchiad hwn yn cyfeirio at farwolaeth sydyn, ac mae’n cynnwys nifer o gyfnodau o densiwn mawr. Bydd clipiau o ddamweiniau ceir a ffrwydradau, golygfeydd sy’n debygol o fod yn anaddas i’r rhai sy’n sensitif i olau neu sain, a defnydd achlysurol o iaith gref.
Amser cychwyn:
Gwe + Sad 8pm
Hyd y perfformiad: tuag 1 awr 20 munud
Gwybodaeth bwysig cyn i chi ddod i the_crash.test
Yn ystod y perfformiad gofynnir i chi ryngweithio gyda’r sioe a phleidleisio ar rai adegau. Pan fydd yn bosibl, dewch â’ch ffôn symudol i gael mynediad i’r ddolen i adael i chi ryngweithio gyda’r sioe. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar y noson.
CYNNIG MYFYRWYR A DAN 16
Tocynnau £8.
GRWPIAU AC YSGOLION
Tocynnau £8 (grwpiau 10+). Trefnu ymweliad grŵp.
Pob cynnig yn amodol ar seddi ddewisiol, dosraniadau ac argaeledd.
PERFFORMIADAU AR-LEIN
Cynhyrchiad yw The_crash.test a ddyluniwyd i gael ei fwynhau gan gynulleidfaoedd ac y gallant ryngweithio ag o naill ai yn bersonol neu ar-lein. Bydd yn cael ei berfformio gan gast o’u cartrefi eu hunain ac yn bersonol ar y llwyfan. Dewiswch a fyddech yn hoffi archebu tocyn i fod yn bresennol gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, neu docyn ar-lein.
Os byddwch yn dewis tocyn ar-lein arweinir chi i dudalen docynnau Hijinx i lenwi’r archeb ac anfonir dolen i’r perfformiad atoch yn nes at yr amser.
Sylwer mai safle allanol yw hwn nad yw’n gysylltiedig â Chanolfan Mileniwm Cymru a bydd y tocynnau a’r data archebu ar gyfer y digwyddiad ar-lein yn cael eu rheoli gan
Hijinx.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad ar-lein yn arwain at neu yn ystod y perfformiad, anfonwch e-bost at: info@hijinx.org.uk.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad