Jo a George yn cyflwyno dau fywyd canol oed sy’n dirywio’n eclectig, yn ddigymell, yn rhagweladwy ac ar hap.
Mae’n frwydr go iawn.
Dyma ddechrau’r diwedd.
Ond ry’n ni yma o hyd.
Yn llawn gobaith gobeithiol, cabare am fywyd a nesáu at farwolaeth yw The Rest of Our Lives. Ymunwch â Jo a George am noson o ddawnsio, syrcas a gemau.
Hen ddawnswraig yw Jo, a George yn hen glown. Maen nhw’n artistiaid rhyngwladol sydd â chanrif o brofiad bywyd rhyngddyn nhw. Bydd ganddyn nhw drac sain o ganeuon i lenwi llawr dawnsio, llyfryn o docynnau raffl a phinsiaid o optimistiaeth eco-gyfeillgar.
"actau beiddgar, groes-graen sy’n poeni dim am chwaeth” – Dance Review
"Mae Jo Fong yn chwedlonol ar sin ddawns gyfoes gwledydd Prydain. Mae wedi gweithio gyda phawb, o Rosas i DV8 i Rambert, ac mae ganddi enw da fel perfformwraig garismataidd a choreograffydd penderfynol o chwilfrydig.” – The Observer
Amser cychwyn:
Gwe 7.30pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr 30 munud
Canllaw oed: 14+
Themâu canol oed a iaith gref
CYNNIG MYFYRWYR A DAN 16
Tocynnau am £8
CYNIGION I GRWPIAU A YSGOLION
Grwpiau 10+ gostyngiad o £2
Pob cynnig yn amodol ar seddi ddewisiol, dosraniadau ac argaeledd.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.