Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A camera filming a guitarist

Ysgrifennu Caneuon gyda Matthew Frederick

Cyfle creadigol am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

10 Tachwedd – 15 Rhagfyr 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Ysgrifennu Caneuon gyda Matthew Frederick {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1576

Ysgrifennu Caneuon gyda Matthew Frederick

Cyfle creadigol am ddim

10 Tachwedd – 15 Rhagfyr 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Ymunwch â’r canwr a’r ysgrifennwr caneuon Matthew Frederick ar gyfer gweithdy chwe wythnos am hanfodion ysgrifennu caneuon.

Ar y cwrs hwn byddwch chi’n cael cyfle i ysgrifennu amrywiaeth o ganeuon ar y cyd ac mewn grwpiau llai. Byddwch chi hefyd yn cael eich annog i ysgrifennu’n unigol gartref rhwng sesiynau, ac, os byddwch chi’n gyfforddus yn gwneud hynny, rannu eich gwaith â gweddill y grŵp yn y gweithdy bob wythnos.

Ydych chi’n offerynnwr hyderus? Bydd croeso i chi ddod â’ch offeryn gyda chi. Bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i ysgrifennu a chyfansoddi yn seiliedig ar themâu a phynciau maent yn frwdfrydig amdanynt. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu harwain gan y cyfranogwyr gymaint â phosibl, gan alluogi artistiaid ifanc i gymryd rheolaeth o safbwynt cerddorol o dan arweiniad Matthew i ddatblygu eu gallu geiriol a strwythurau caneuon.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD?

Bob dydd Iau, 6pm – 8pm dros chwe wythnos yn dechrau 10 Tachwedd 2022.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 10 Tachwedd, 17 Tachwedd, 24 Tachwedd, 1 Rhagfyr, 8 Rhagfyr, a 15 Rhagfyr felly bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.

Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

YNGLYN Â’N CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru