Mae Sion Corn yn gwahodd chi ddod i ganu, dawnsio, a llawenhau i diwns mwyaf y Nadolig mewn steils a mash ups byw na glywsoch erioed o’r blaen.
O Lionel Ritchie i Gustav Holst, o Ben E. King i’r Pogues, o Sinatra i Disney ac o Bruno Mars i Caryl Parry.
Wedi ei ffurfio yng Nghaerdydd yn 2018, yn cynnwys lleisiau arbennig Ffion Emyr a Gwydion Griffiths, ma’r band 8 darn ’50 Shêds o Lleucu Llwyd’ yn barod i chwythu’ch bôbls bant a rhoi’r ffync nôl yn eich hosanau.
Dewch â’ch hetiau ‘dolig, tinsel a chlychau ceirw! Ho ho ho
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Oed: 18+
Perfformiad yn Gymraeg a Saesneg
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.