Mae'r cynhyrchiad llwyddiannus o Annie yn dod i Gaerdydd, yn uniongyrchol o West End Llundain. Mae'r adfywiad hwn yn cynnwys y beirniad o Strictly Come Dancing Craig Revel Horwood fel Miss Hannigan!
Yn Efrog Newydd yn y 1930au yn ystod y Dirwasgiad Mawr, mae Annie’n byw bywyd anodd yng nghartref plant amddifaid Miss Hannigan. Wrth ryw lwc, mae hi’n cael ei dewis i dreulio’r Nadolig yng nghartref y biliwnêr enwog, Oliver Warbucks. Ond mae syniadau sbeitlyd eraill gan Miss Hannigan ac mae hi’n cynllwynio i ddifetha ymdrechion Annie i chwilio am ei rhieni go iawn.
“LAVISH ESCAPISM”

Gyda llyfr a sgôr sydd wedi ennill gwobrau Tony® ac yn cynnwys y caneuon bythgofiadwy It’s The Hard-Knock Life, Easy Street, I Don’t Need Anything But You a Tomorrow, gallwch fetio’ch dimai olaf y byddwch chi wrth eich bodd!
“FEEL GOOD ESCAPIST JOY. FUN, RIOTOUS AND HEARTFELT”
Canllaw oed: 5+ (dim plant o dan 2)
Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 35 munud (gan gynnwys 1 egwyl)
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 6 Gorffennaf, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd i'w gadarnhau.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4, Mawrth – Iau, y 2 bris uchaf. Trefnu ymweliad grŵp.
CYNNIG I BOBL O DAN 16
Gostyngiad o £4, Mawrth – Iau (y 2 bris uchaf), pan brynir gyda thocyn oedolyn am bris llawn. Nodwch fod rhaid i bob person dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
MYFYRWYR
Gostyngiad o £4, Mawrth – Iau, y 2 bris uchaf.
Mae pob cynnig yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad