Dewch am wibdaith gyda ni – o’r cyfeiriad hanesyddol cyntaf at nwyddau mislif yn yr Hen Roeg, i argymhellion cyfoes ar gyfer gofalu am eich fwlfa, a’r cyfan yng nghwmni’r dylanwadydd cyfrygau cymdeithasol, ‘Adriana Mole'.
Bydd hiwmor a hanes yn gwrthdaro yn y perfformiad aml-gyfrwng yma sy’n chwalu pob tabŵ ac yn dathlu’r mislif. Ymunwch â ni am damaid o addysg-loniant, mash-yp cerddorol a chlipiau o ffilmiau.
“If you love women's bodies and like your feminism served with a great dollop of humour, this show-and-tell performance style lecture is bleeding funny!” (adborth gan y gynulleidfa)
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Belszki.
“A show that was empowering to experience on both a humorous and serious level. Definitely not to be missed”
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Hyd y perfformiad: 75 munud
Oed: 12+
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.