Stafagansa hafaidd o adloniant bythgofiadwy yn llawn talent cabaret Brydeinig wefreiddiol sy'n uniaethu fel dynion.
O stripers nwydus a deniadol i syrcas pryfoclyd a llawn egni, dewch i weld campau avant-garde camp ein sêr boylesque gwych – y ffordd orau i ddathlu haf chwilboeth mewn steil.
Wedi'i gyflwyno gan Drag Nightmare DIS.
Gyda:
Pi the Mime
Rudy Jeevanjee
Rowen K (Syrcas)
Roman Ackley
Bashful (Polyn)






Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a noethni
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Dewch i ddathlu Mis Pride gyda ni! Rydyn ni'n cynnig 20 o docynnau hanner pris ar gyfer pob sioe Cabaret ym mis Mehefin*. Peidiwch ag oedi – y cyntaf i'r felin amdani.
Defnyddiwch y cod PRIDEHAPUS
*Yn amodol ar argaeledd. Mae'r cynnig yn gyfyngedig i 20 o docynnau hanner pris ar gyfer pob sioe yn Cabaret ym mis Mehefin, ac eithrio Drag Queen Wine Tasting. Sori, dim gwin rhad. Uchafswm o 4 tocyn fesul person fesul sioe. Ychwanegwch y cod hyrwyddo a dewiswch docynnau 'Web Offer'. Nid yw'r cynnig yn ôl-weithredol.