Efrog Newydd, cyfnod y Gwahardd. Dinas llawn gangsteriaid, sioeferched a breuddwydwyr. Mae pennaethiaid gangiau Fat Sam a Dandy Dan yn benben â'i gilydd. Mae'r peis cwstard yn hedfan ac mae gang Dandy Dan ar y blaen ers cael gafael ar y gwn “splurge” newydd. Nawr, mae Fat Sam a'i ffyliaid di-glem mewn trafferth!
Yna daw Bugsy Malone, paffiwr untro heb ceiniog a dyn neis iawn. I gyd mae Bugsy wir am wneud yw treulio amser gyda'i gariad nwydd, Blousey, ond a fydd modd iddo wrthsefyll y cantores deniadol Tallulah ac aros allan o drafferth am ddigon hir i helpu Fat Sam i amddiffyn ei fusnes?
“A blast… Triumphant razzmatazz perfection”
Dyma ffilm fyd-enwog Alan Parker, a lansiodd yrfaoedd Jodie Foster a Scott Baio, yn dod yn brofiad theatrig teithiol ysblennydd am y tro cyntaf erioed fel adfywiad o gynhyrchiad poblogaidd y Lyric Hammersmith Theatre. Yn llawn caneuon adnabyddus gan yr ennillydd Oscar, Paul Williams, gan gynnwys My Name is Tallulah, You Give a Little Love a Fat Sam’s Grand Slam, mae Bugsy Malone yn esiampl berffaith o sioe gerdd gomedi i godi'ch calon.
“A whomping big crowd-pleasing hit”
Theatre Royal Bath Productions, Birmingham Rep Theatre a Kenny Wax yn cyflwyno cynhyrchiad The Lyric Hammersmith Theatre
Canllaw oedran: 6+
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7pm
Iau + Sad 2pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr yn cynnwys un egwyl
Cynnig aelodau
£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf).
Dod yn aelod.
Cynigion grŵp
Grwpiau 10+, o £3 i ffwrdd (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp.
Ysgolion
Tocynnau £12, ac un sedd athro am ddim ar gyfer pob 10 disgybl.
Ddim ar gael ar-lein, ebostiwch group.sales@wmc.org.uk
Argaeledd cyfyngedig. Yn ddilys ar seddi dethol Maw - Iau.
Dan 16
£3 i ffwrdd, Maw - Iau (2 bris uchaf). Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu drosodd.
Pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dosraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.