Mae hi yma! Mae Elvis Lesley yn yr adeilad! Stop nesaf: Vegas!
Peidiwch â bod yn unig heno. Ymunwch â’r digrifwr cymeriadau arobryn Tracey Collins (Audrey Heartburn, Shell Suit Cher) wrth iddi ddod ag Elvis Lesley I'r llwyfan ar gyfer BURNIN’ LOVE BINGO! Noson i'w chofio!
Gyda gemau bingo bywiog, cylchdroeon pelfig gwyllt a chaneuon byw anhygoel.
Bydd Elvis Lesley yn mynd â chi ar daith o ddiflastod i hapusrwydd, lle y byddwch chi’n chwerthin, dawnsio ac yn chwarae i ennill gwobrau gwych.
Mae’r peli bingo yn barod amdanoch chi!
“Superb audience-teasing character cabaret!”
Amser dechrau: 8.30pm, 8pm drysau
Canllaw oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref a goleuadau sy'n fflachio.
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.