A ydych chi erioed wedi ystyried sut beth fyddai clywed comedi yn cael ei chyfieithu ar y pryd? Wel dyma’ch cyfle i ddarganfod. Mewn ffordd.
Cychwynnodd hyn fel syniad syml. Tra byddai’r digrifwyr yn perfformio yn Gymraeg, byddai’r gynulleidfa yn clywed cyfieithiad Saesneg. Yn fyw! Ond, roedd ambell i nam technegol, a gan fod y digrifwyr wedi pechu bob cyfieithydd yn y wlad, erbyn hyn mae’r cyfieithu’n cael ei wneud gan... y digrifwyr eu hunain.
Mae’r sioe anarchaidd ac anrhagweladwy wedi gwerthu bob tocyn yng ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth ers ei lansio yn 2017, a rydych chi'n siŵr o chwerthin ar hyd y sioe.
Gyda’r cyfieithydd sydd bellach yn ddigrifwr, Steffan Alun, a leinyp o oreuon y sîn Gomedi Gymraeg:
Eleri Morgan
Esyllt Sears
Josh Elton
Josh Pennard-MacFarlane
Mel Owen
Steffan Evans
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 16+
Rhybudd: Iaith gref
Iaith: Mae'r sioe yma yn ddwyieithog; caiff ei pherfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.