Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Common People

Arddangosfa gan Wendy Carrig

Glanfa

28 Ebrill – 13 Mai 2023

Common People

Arddangosfa gan Wendy Carrig

28 Ebrill – 13 Mai 2023

Glanfa

Roedd yr wythdegau yn gyfnod o aflonyddwch cymdeithasol mawr ym Mhrydain. Roedd glowyr yn streicio yn erbyn cau’r pyllau glo, ac roedd y Rhyfel Oer gyda Rwsia wedi chwarae ar ofnau pobl, gan arwain at dwf rhyngwladol mewn arfau niwclear.

Fe fu protestiadau cyhoeddus yn 1981 pan roddodd llywodraeth Prydain ganiatâd i’r Unol Daleithiau osod taflegrau niwclear yn RAF Greenham. Mewn ymateb, arweiniodd grŵp o fenywod (yn bennaf) brotest heddychlon drwy gerdded yr holl ffordd o Gaerdydd i’r Comin. Cymerodd yr orymdaith 120 milltir ddeg diwrnod iddynt, ac ar ôl cyrraedd fe benderfynodd llawer aros. Ymunodd eraill, ac fe anwyd Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham.

Arddangosfa o ffotograffau a dynnwyd yn ystod ychydig wythnosau byr ym mis Ionawr 1985 yw COMMON PEOPLE. Er gwaetha amodau caled y gaeaf, a’r heddlu a beilïaid yn eu troi oddi yno bob dydd, roedd menywod yn dal ati i brotestio. Mae'r lluniau yma’n dangos sut parhaodd bywyd domestig o gwmpas tân y gwersyll.

I gyd-fynd â’r arddangosfa mae Tân yn Llosgi, traethawd gan Dr Rebecca Johnson yn disgrifio’i phum mlynedd fel protestiwr yn Greenham.

Bu Wendy Carrig yn cofnodi Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham wrth astudio ar gyfer ei gradd ffotograffiaeth, ac aeth ymlaen i wneud gyrfa lwyddiannus iddi’i hunan fel ffotograffydd yn gweithio ar draws meysydd ffasiwn a phortreadau. Mae hi'n un o sylfaenwyr f22 – Ffotograffwyr Benywaidd yng Nghymdeithas y Ffotograffwyr, sy’n herio anghyfartaledd rhywedd yn y diwydiant ffotograffig.

Arddangosfa rad ac am ddim nesaf at y Stiwdio Weston i gyd-fynd ag Es & Flo.

Cyflwynir yn

Glanfa