Datgelwch eich creadigrwydd a dewch â’ch syniadau am gemau fideo yn fyw yn y cwrs rhad ac am ddim yma gyda Welsh Games Academy!
Hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi creu gêm fideo o’r blaen, peidiwch â phoeni! Bydd Welsh Games Academy yn eich addysgu am bopeth y mae angen i chi ei wybod er mwyn dechrau arni. Byddwch chi’n dysgu sut i droi eich syniadau yn gemau go iawn y gallwch chi eu chwarae a’u rhannu ag eraill.
Yn sesiwn 1 byddwch chi’n datblygu gêm llwyfan sylfaenol gan ddefnyddio Flowlab, golygydd gweledol ar sail porwr.
Yn sesiwn 2 byddwch chi’n creu gêm arcêd syml gan ddefnyddio GameMaker Studio, adnodd safonol o’r diwydiant a ddefnyddir i greu gemau fel Undertale, Forager a Nuclear Throne.
Bydd y cwrs yma yn rhoi sylfaen cadarn i chi mewn datblygu gemau fel y gallwch chi gael hwyl yn creu eich gemau eich hunain.
I BWY MAE’R RHAGLEN?
Mae’r cyrs yn agored i unrhyw un 14 – 18 oed.
PRYD?
Dydd Sadwrn 8 – 15 Gorffennaf, 12pm – 6pm bob dydd.
Unwaith i chi gofrestru, byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.
Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
YNGLYN Â’N CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.