Yn anffodus, mae'r digwyddiad yma wedi cael ei ohirio. Caiff dyddiad newydd ei gyhoeddi'n fuan!
Fel un o artistiaid cabaret mwyaf poblogaidd y DU, a ddisgrifiwyd gan Time Out fel ‘Trailblazer’ cabaret Llundain, mae Dusty Limits wedi perfformio ym mhob man, o Joe’s Pub yn Efrog Newydd i fariau ystafell gefn ym Merlin, ledled y DU, Ewrop, Awstralia a Seland Newydd.
Gyda’i gydweithredwr Michael Roulston, mae Dusty yn cyflwyno cymysgedd eclectig o ganeuon gwreiddiol a dynwarediadau sy’n delio â phopeth o farwoldeb dynol i bolisi cymdeithasol. Os ydych chi’n hoffi Fascinating Aida neu The Tiger Lillies, dyma’r sioe i chi.
Dychanol, doniol dros ben ac yn dorcalonnus, mae’r sioe yma yn neidio o gomedi i drasiedi ac yn ôl eto.
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, cyfeiriadau at iechyd meddwl, hunanladdiad, defnydd o gyffuriau/alcohol, Darwiniaeth Gymdeithasol, cyfeiriadau rhywiol
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Dewch i ddathlu Mis Pride gyda ni! Rydyn ni'n cynnig 20 o docynnau hanner pris ar gyfer pob sioe Cabaret ym mis Mehefin*. Peidiwch ag oedi – y cyntaf i'r felin amdani.
Defnyddiwch y cod PRIDEHAPUS
*Yn amodol ar argaeledd. Mae'r cynnig yn gyfyngedig i 20 o docynnau hanner pris ar gyfer pob sioe yn Cabaret ym mis Mehefin, ac eithrio Drag Queen Wine Tasting. Sori, dim gwin rhad. Uchafswm o 4 tocyn fesul person fesul sioe. Ychwanegwch y cod hyrwyddo a dewiswch docynnau 'Web Offer'. Nid yw'r cynnig yn ôl-weithredol.