Drwy’r Rhwydwaith Radio Cymunedol, mae Radio Platfform wedi dechrau cymryd rhan yn Ein Wythnos Daear, menter wythnos o hyd sy’n rhedeg rhwng 20 a 26 Tachwedd 2023 lle mae gorsafoedd radio cymunedol ledled y DU yn dod ynghyd i hyrwyddo pynciau amgylcheddol cyn COP28.
Ymunwch â ni am sgyrsiau, trafodaeth banel a pherfformiadau artistig yn ein digwyddiadau Radio Platfform diweddaraf gyda’r Rhwydwaith Radio Cymunedol, a fydd yn archwilio pa mor hygyrch yw pynciau amgylcheddol i bobl ifanc.
Bydd digwyddiadau Radio Platfform yn cynnwys un sioe fyw y dydd yr wythnos honno sy’n archwilio thema wahanol sy’n berthnasol i’r byd naturiol.
Bydd hyn yn cyfuno nod Ein Wythnos Daear o gynyddu ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a’n nod ni o ysbrydoli pobl ifanc.
Trefnlen
- Fideo Croeso: Delyth Jewell AS
- Araith Sefyll Dros Natur: Ymddiriedolaeth Natur Cymru
- Cân: Olive Grinter
- Canolfan Mileniwm Cymru a’r Amgylchedd: David Bonney (Rheolwr Peirianneg a Chadwraeth Adeiladau) + Steven Morris (Pennaeth Gweithrediadau Lleoliad)
- Trafodaeth Banel ‘Pobl Ifanc yn y Sector Amgylcheddol’ wedi’i chyflwyno gan Agathe Dijoud. Aelodau’r panel yw:
- Arpana Churnilal (Cynghorydd GIS Coedwigaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru + Aelod o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol
- Korina Tsioni (Arweinydd Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol)
- Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid (Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru)
- Harrison Lewis (Cynhyrchydd ar gyfer Uned Gwyddoniaeth Sain y BBC)
- Cwestiynau gan y gynulleidfa
- Darlleniad o Gerddoriaeth
- Onismo Muhlanga, Bardd ac Artist Gweledol
Amser dechrau: 6.30pm, 6pm drysau
Oed: 11+
Rhaid i bawb o dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen tocyn. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich tocyn ymlaen llaw i osgoi unrhyw siom.