Dewch i wneud eich zine eich hun yn y gweithdy rhad ac am ddim hwn.
Mae Efa Supertramp wedi bod yn creu eu zines ei hun ers dros ddegawd – yn edrych ar ystod o themâu o gerddoriaeth danddaearol i gelf, teithio ac anturiaethau – mae ganddi gasgliad sy’n cynnwys cannoedd o sîns ac mae hi’n angerddol am hunan-gyhoeddi a chyhoeddi drwy wasg annibynnol . Yn y gweithdy yma, bydd hi’n trafod y pŵer sydd i’w gael mewn creu ffansîn, a’u perthnasedd i’n diddordebau niche neu gelf/barddoniaeth/rhefru radical.
Yn ystod y gweithdy, byddwn yn gweithio ar greu sîn gyda’n gilydd ac fe fyddwch yn dysgu sut i greu eich cyhoeddiadau eich hun yn y dyfodol (a pham). Mae sîn yn gallu ymwneud ag unrhywbeth o’ch dewis – does dim angen i chi baratoi unrhyw beth na fod â phrofiad blaenorol, ond byddwch yn barod i greu gyda’n gilydd. Bydd deunyddiau ar gael fel rhan o’r gweithdy.
Mae’r gweithdy hwn yn cyd-fyd fynd a’r ffilm ‘Pync: o’r Archif’, sy’n cynnwys clipiau o Archif Ddarlledu Cymru - rhan o arddangosfa pync yng Nghymru Wasteland of My Fathers. Mae’r gweithdy hwn yn dathlu’r sin pync yng Nghymru a phwysigrwydd hunan gyhoeddi a chreu zines rhan mor bwysig yn sîn gerddoriaeth Gymraeg yr 80au. Dewch I ymuno ag Efa Supertramp i greu ‘ine eich hun, wedi ei ysbrydoli gan gerddoriaeth pync ac agwedd chwydroadol yr adeg.
Amseroedd gweithdai: 10:30am – 12:30pm (yn Gymraeg), 2pm – 4pm (dwyieithog)
Canllaw oed: 14+


