Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Lolfa yw eich ystafell fyw pob dydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru; mae croeso i chi ddod i mewn ac eistedd, mwynhau paned, darllen llyfr, chwarae gemau neu ddysgu sgil newydd gyda’n rhaglen o weithgareddau.

Gemma a Ffion yw ein tîm cymunedol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Dywedwch helo os byddwch chi’n eu gweld nhw yn y gofod a rhowch wybod iddyn nhw beth yw eich barn am Lolfa – maen nhw am wybod beth hoffech chi ei weld yno. Os nad ydyn nhw o gwmpas anfonwch neges atyn nhw yn community@wmc.org.uk neu ymunwch â’u grŵp Facebook – Community Engagement at Wales Millennium Centre.

Gweithgareddau

Mae llawer o bobl wedi awgrymu gweithgareddau ar gyfer y gofod, gan gynnwys crosio, gwau, grwpiau ysgrifennu, clybiau llyfrau a nosweithiau barddoniaeth! Os hoffech chi drefnu rhywbeth cysylltwch â Gemma a Ffion – byddan nhw’n hapus i drafod hyn gyda chi. Yn fuan bydd gennym fwrdd du a fydd yn dangos y rhaglen o weithgareddau yn y gofod fel y gallwch chi weld bydd sydd ar gael yn Lolfa!

Y Pantri

Mae gennym bantri cymunedol sy’n llawn pethau y gallai fod eu hangen arnoch, gan gynnwys bwyd, eitemau ar gyfer y mislif a llyfrau. Os gallwch chi roi unrhyw gynhyrchion fel bwyd sych, pethau ymolchi neu deganau byddem yn ddiolchgar iawn – ac os oes angen unrhyw beth arnoch sydd ar gael yn y pantri, helpwch eich hunain!