Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hey Duggee – The Live Theatre Show

7 – 8 Ebrill 2023

Theatr Donald Gordon

Byddwch yn barod Squirrels – mae’r ci mawr hoffus, Hey Duggee, ar daith am y tro cyntaf erioed a dyma eich cyfle i'w weld!

Mae Hey Duggee – The Live Theatre Show yn mynd i fod yn wych gyda Duggee, y Squirrels a llawer mwy o’ch hoff gymeriadau yn ymddangos. Mae Betty eisiau gwneud gwisgoedd, mae Happy eisiau canu, mae Tag eisiau creu cerddoriaeth, mae Norrie eisiau dawnsio, mae Roly eisiau jeli ac maen nhw i gyd eisiau i chi ymuno â nhw yn y Clwb.

Mae cymaint i'w wneud, ond yn ffodus mae gan Duggee ei fathodyn theatr. A fyddwch chi'n cael eich un chi hefyd? A-Woof!

 

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

"A JOYOUS PIECE OF FAMILY ENTERTAINMENT"

Time Out
Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

"IT TAKES SOMETHING SPECIAL TO STAND OUT FROM THE CROWD. HEY DUGGEE DELIVERS."

WhatsOnStage

Byddwch yn rhan o sioe boblogaidd CBeebies ac ymunwch â Duggee a’r squirrels yn y cynhyrchiad rhyngweithiol bywiog hwn sy’n llawn cerddoriaeth, pypedau a llond trol o chwerthin ar hyd y ffordd.

Mae’r gyfres deledu gan y BBC a Studio AKA Hey Duggee wedi ennill chwe BAFTA a sawl EMMY, felly peidiwch â cholli’r cyfle i weld Duggee yn fyw ar y llwyfan yn y cynhyrchiad newydd cyffrous hwn o’r sioe boblogaidd.

Mae'n amser am gwtsh Duggee!

Amser dechrau:
Gwe 10.30am + 2pm
Sad 10am, 1pm

Perfformiad Ymlaciedig: Sad 8 Ebrill, 1pm

Hyd y perfformiad: Tua 55 munud (dim egwyl)

Cynigion grŵp

Grwpiau 10+ o £3 i ffwrdd (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp.

Cynnig dan 8

£3 i ffwrdd (3 bris uchaf)

 

 

Pob cynnig yn amodol ar seddi ddewisiol, dosraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon