Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru

How Shall We Begin Again?

Perfformiad newydd wedi’i drefnu gan yr artist Jo Fong

Theatr Donald Gordon

11 + 12 Chwefror 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London How Shall We Begin Again? {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-1663

Cynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru

How Shall We Begin Again?

Perfformiad newydd wedi’i drefnu gan yr artist Jo Fong

11 + 12 Chwefror 2023

Theatr Donald Gordon

Bydd 50 o bobl yn ymgasglu ar gyfer perfformiad dau ddiwrnod. Dros y ddau ddiwrnod, ni fydd unrhyw beth yn ailadrodd. Bydd pob eiliad yn wahanol. Fe’ch gwahoddir i fod yn dyst... 

Gosodwaith byw yw How Shall We Begin Again? Mae’n ymwneud â’r corff, dychwelyd i’r corff.

“How can I describe the performance… a collective action; between portraiture, protest and something like a prayer. Just a moment, to be in the moment.” 

Jo Fong

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ymrwymedig i greu gofod ar gyfer artistiaid, pobl ifanc a chymunedau a’u cefnogi i adrodd eu straeon yn y ffordd maen nhw am wneud hynny. Cydweithrediad â’n Cydymaith Creadigol Jo Fong yw How Shall We Begin Again? ac rydyn ni wrth ein bodd i allu croesawu’r 50 o bobl hyn i lwyfan ein Theatr Donald Gordon.

“Dance this bold, cuts to the humanity in us all.” 

Kate Hall, Jumped Up Theatre

Mae pawb sy’n cymryd rhan wedi cael eu gwahodd i gyfrannu 12 darn o gerddoriaeth y bydd tri ohonyn nhw yn cael eu dewis ar hap a’u chwarae iddyn nhw, mewn unrhyw drefn. Mae’r gosodwaith byw hwn yn ymwneud â dychwelyd i’r corff, dychwelyd i’n hunain. Mae pob person wedi dehongli’r cyfle hwn. Cymryd perchnogaeth o ofod, cael eich gweld, bod yn bresennol ac i rai, yn syml mae’n ymwneud â’r weithred o fod yn y foment.

Adeola Dewis, Andrew Tadd, Bert Van Gorp, Bunmi Odumosu, Dee Aud Rogers, Deepraj Singh, Catriona James, Cêt Haf, Deborah Light, Dominika Rau, Donna Males, Dylan Davies, Eddie Ladd, Etien Davies, Farah Allibhai, Frances Bolley, Gareth Clark, George Orange, Idrissa Camara, Indigo Tarran, Jacques Colgate, Jain Boon, Jessie Brett, Jo Fong, Jodi Ann Nicholson, Jonny Cotsen, June Campbell-Davies, Katherine Hall, Kevin McIntosh, Krystal Dawn Campbell, Krystal S. Lowe, Lara Ward, Liam Wallace, Linzy Na Nakorn, Marega Palser, Mari Hullett, Natasha Dawkes, ZiHong Mok, Nandi Andrea Payne, Osian Meilir, Poppy né Caroline Sabin, Rabab Ghazoul, Robin Liew Harper, Rosalind Hâf Brooks, Sahar Saki, Sara McGaughey, Sara Sirati, Shakeera Ahmun, Shivaangee Agrawal, Stuart Campbell, Tiago Gambogi, Thomas Lowe and Zosia Jo.

Ymchwiliwyd y perfformiad hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gydag aelodau Striking Attitudes ac yn hwyrach mewn preswyliad a rennir o’r enw Ways of Being Together yn Toynbee Hall, Llundain gyda chymorth gan Artsadmin.Cefnogwyd y perfformiad 16 awr cyntaf gan Siobhan Davies Studios a chafodd ei gomisiynu gan Neurolive.  

Prosiect ymchwil amlddisgyblaethol 5 mlynedd yw NEUROLIVE sy’n dod ag artistiaid, gwyddonwyr a chynulleidfaoedd at ei gilydd i astudio beth sy’n gwneud profiadau byw yn arbennig. How Shall We Begin Again? oedd yr ail berfformiad byw a grëwyd fel rhan o’r ymchwil hwn.

WEDI’I GREU A’I BERFFORMIO GAN 50 O BOBL

Adeola Dewis, Andrew Tadd, Bert Van Gorp, Bunmi Odumosu, Dee Aud Rogers, Deepraj Singh, Catriona James, Cêt Haf, Deborah Light, Dominika Rau, Donna Males, Dylan Davies, Eddie Ladd, Etien Davies, Farah Allibhai, Frances Bolley, Gareth Clark, George Orange, Idrissa Camara, Indigo Tarran, Jacques Colgate, Jain Boon, Jessie Brett, Jo Fong, Jodi Ann Nicholson, Jonny Cotsen, June Campbell-Davies, Katherine Hall, Kevin McIntosh, Krystal Dawn Campbell, Krystal S. Lowe, Lara Ward, Liam Wallace, Linzy Na Nakorn, Marega Palser, Mari Hullett, Mike Williams, ZiHong Mok, Nandi Andrea Payne, Osian Meilir, Poppy né Caroline Sabin, Rabab Ghazoul, Robin Liew Harper, Rosalind Hâf Brooks, Sahar Saki, Sara McGaughey, Sara Sirati, Shakeera Ahmun, Shivaangee Agrawal, Stuart Campbell, Tiago Gambogi, Thomas Lowe and Zosia Jo.

Ymchwiliwyd y perfformiad hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gydag aelodau Striking Attitudes ac yn hwyrach mewn preswyliad a rennir o’r enw Ways of Being Together yn Toynbee Hall, Llundain gyda chymorth gan Artsadmin.Cefnogwyd y perfformiad 16 awr cyntaf gan Siobhan Davies Studios a chafodd ei gomisiynu gan Neurolive.  

Prosiect ymchwil amlddisgyblaethol 5 mlynedd yw NEUROLIVE sy’n dod ag artistiaid, gwyddonwyr a chynulleidfaoedd at ei gilydd i astudio beth sy’n gwneud profiadau byw yn arbennig. How Shall We Begin Again? oedd yr ail berfformiad byw a grëwyd fel rhan o’r ymchwil hwn.

TÎM CREADIGOL  

Cymorth Artistig: Jodi Ann Nicholson, Indigo Tarran 

Cynghorydd Creadigol Goleuo: Martin Hunt 

Dylunydd Sain Ddisgrifiad: Shivaangee Agrawal 

Dylunio Sain a Fideo: Mohammed Abuatiya

Rheolwr Cynhyrchu: Luke Davies

Dylunydd/Gweithredwr Goleuo: Ella Cunnison

Dylunydd/Gweithredwr Sain: Thomas Hamer

GWYBODAETH AM YR ARTIST

Jo Fong

Mae Jo yn byw yng Nghymru ac mae’n Gydymaith Creadigol gyda Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae wedi bod yn dawnsio ac yn creu ers 30 mlynedd a dechreuodd ei gyrfa gyda Rosas, Rambert a DV8 Physical Theatre i enwi ond ychydig.

Mae ei gwaith creadigol yn adlewyrchu’r angen yn ystod y cyfnod hwn i bobl ddod at ei gilydd. Mae ei hymarfer artistig yn ddull esblygol a chydweithredol sy’n rhoi syniadau am berthyn neu ffurfio cymuned ar y rheng flaen.

Perfformiadau a digwyddiadau diweddar: Ways of Being Together, Neither Here Nor There, To Tell You the Truth, Our Land, What Will People Need? Nettles: How to Disagree?, The Sun’s Come Out (a grëwyd mewn cydweithrediad â’r artist Sonia Hughes), A Brief History of Difference gyda Das Clarks a Marathon of Intimacies gyda’r artist Anushiye Yarnell. Cyfrannodd Jo at sioe Luke Hereford Grandmother’s Closet yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a haf diwethaf roedd hi yn y Summerhall fel rhan o Dyma Gymru, Caeredin gyda pherfformiad o’r enw The Rest of Our Lives a grëwyd gyda’r clown a'r creawdwr syrcas George Orange. 

Ym mis Chwefror 2022 casglodd Jo 14 o artistiaid a’u gwesteion at ei gilydd am breswyliad a rennir pythefnos o hyd, o’r enw Ways of Being Together Toynbee Takeover, London. Mae Ways of Being Together wedi esblygu i fod yn gymuned amrywiol wedi’i arwain gan artistiaid, sy’n creu gofod ac amser i ailgysylltu, trwsio, ailgyflenwi ac archwilio creu perfformiadau a chreu ar y cyd. Mae’r cydgyfarfod blynyddol yn haenog, ac mae’n canolbwyntio ar ddysgu, cymorth, dod allan a gweithredu newid.

jofong.com 

Disgrifiad Sain Gwybodaeth y Digwyddiad
DIOLCH

Diolch yn fawr iawn i Artsadmin, Toynbee Hall, Striking Attitudes, Tŷ Dawns (Caerdydd), Chapter, Groundwork Collective, Hijinx, Cyngor Celfyddydau Cymru, Neurolive, Siobhan Davies Studios a Chanolfan Mileniwm Cymru; mae angen cymorth ac ymrwymiad i greu celf yn y cyfnod hwn ac mae’n weithred o gariad. Diolch am ofalu am ecoleg celf Cymru.

Mae’r perfformiad yn dechrau am hanner dydd ac yn gorffen am 8pm bob dydd.

Gallwch chi aros am faint bynnag o amser yr hoffwch chi, ac os bydd angen i chi adael gallwch chi ddod nôl i mewn unrhyw bryd.

Rhybudd – mae’n bosibl y bydd rhai adrannau yn cynnwys iaith gref

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon