Mae cast The Greatest of Shows yn dychwelyd i Cabaret gyda’u sioe gydganu It’s a 90s Thing, wedi'i chyflwyno gan Donna Marie.
Bydd ein cast nodedig, sy’n cynnwys Gavin Sheppard a Louise Halliday, yn gwneud i chi godi ar eich traed i ganu a dawnsio wrth iddyn nhw berfformio hoff ganeuon pawb o’r 90au gan y Spice Girls, Backstreet Boys, Shania Twain, Oasis, Christina Aguilera a llawer mwy.
Felly dewch o hyd i’ch denim a’ch gwisg ysgol a’ch Britney mewnol.
Anogir cyfranogiad gan y gynulleidfa a gwisgoedd ffansi.
Dechrau amser: 8.30pm, drysau 8pm
Canllaw oed: 14+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Dewch i ddathlu Mis Pride gyda ni! Rydyn ni'n cynnig 20 o docynnau hanner pris ar gyfer pob sioe Cabaret ym mis Mehefin*. Peidiwch ag oedi – y cyntaf i'r felin amdani.
Defnyddiwch y cod PRIDEHAPUS
*Yn amodol ar argaeledd. Mae'r cynnig yn gyfyngedig i 20 o docynnau hanner pris ar gyfer pob sioe yn Cabaret ym mis Mehefin, ac eithrio Drag Queen Wine Tasting. Sori, dim gwin rhad. Uchafswm o 4 tocyn fesul person fesul sioe. Ychwanegwch y cod hyrwyddo a dewiswch docynnau 'Web Offer'. Nid yw'r cynnig yn ôl-weithredol.