Ymunwch â’r ddigrifwraig, cantores-cyfansoddwraig, actores a dramodydd Claire Summerskill ar gyfer ei sioe ddiweddaraf.
“AN EVENING OF SPARKLING WIT AND CLEVER OBSERVATION.”
Dyma sioe sy’n cyfuno comedi a chyfansoddi Claire er mwyn myfyrio ar ei gyrfa hir fel ‘lesbiad broffesiynol’ (ei geiriau hi).
Gyda hiwmor cynnes a chroesawgar sy'n aml yn llawer rhy agos at y gwir, bydd aelodau o'r gynulleidfa o unrhyw oed, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn mwynhau ffordd unigryw Clare o adrodd straeon, cyflwyno stand yp a chanu caneuon comedi.
Mwynhewch ei safbwyntiau ar faterion o gariad a serch, priodas ac ysgariad a phryderon a doethineb canol oed.
"A lesbian Victoria Wood!"
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref a goleuadau sy'n fflachio.
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.