Mae’r digrifwr Gen-Z, hoyw, brown a Chymreig yn cyflwyno rhagddangosiad o’i hawr gyntaf ar gyfer Gŵyl Ymylol Caeredin: sioe gomedi-gerddorol pync fentrus am foeseg amheus camddefnyddio hunaniaethau a ymyleiddiwyd er budd cymdeithasol.
Tyfodd Leila i fyny yn dysgu sut i ddefnyddio a monopoleiddio ei ‘hunaniaeth leiafrifol’ ar gyfer drwg a drygioni. Dyw ei sioe ddim yn dibynnu ar yr hunaniaethau yma, ond ei thalent ryfeddol, a dweud y gwir.
Mae Leila, seren Vandullz y BBC a’r BBC New Comedy Awards 2022, wedi ysgrifennu ar gyfer Bad Education (BBC) a Never Mind The Buzzcocks (Sky) a gallwch ei chlywed yn Don’t Hug Me I’m Scared ar Channel 4.
Show and Tell mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru
"The actual future of comedy"
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 14+
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.