Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Life Hack 2023

Codi’r llen ar y diwydiannau creadigol

Y Ffatri

22 Chwefror 2023

Life Hack 2023

Codi’r llen ar y diwydiannau creadigol

22 Chwefror 2023

Y Ffatri

Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad Life Hack am ddim eleni er mwyn cael profiad ymarferol gan bob sy'n gweithio ar draws sawl diwydiant creadigol yma yng Nghymru.

Drwy gydol y dydd cewch chi ofyn unrhywbeth wrthyn nhw, fel sut ddechreuon nhw, dod o hyd i swydd eich breuddwydion neu sut i fynd ati i gicdanio'ch gyrfa.

PWY ALL DDOD?

Os ydych chi'n 11–25 mlwydd oed, dewch i gwrdd â gweithwyr o'r diwydiannau hyn a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol a rhyngweithiol am ddim. Rydyn ni'n gweithio ag arbenigwyr o fydoedd theatr a dawns, radio a ffilm, cerddoriaeth a dylunio, a mwy.

PRYD?

Cynhelir ein digwyddiad 2023 yn Y Ffatri, y Porth ar ddydd Mercher 22 Chwefror o 2pm i 10pm.

BETH FYDD YN DIGWYDD?

Mae'r digwyddiad gyfan am ddim ac yn cynnwys gweithdai, rhwydweithio cyflym a bwyd, gyda disgo tawel ar ddiwedd y dydd!

Dewch draw er mwyn cael eich ysbrydoli i ddechrau gyrfa yn y diwydiannau creadigol.

*Mae niferoedd yn gyfyngedig felly dylech chi ond archebu lle os ydych chi bendant yn bwriadu mynychu.

Trefnwyd y weithgaredd hon drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Valleys Kids, ac ariannwyd hi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cyflwynir yn

Y Ffatri