Yn seiliedig ar y llyfr arobryn gan Yann Martel, mae’r sioe pum seren yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Enillydd pum gwobr Olivier, gan gynnwys Drama Newydd Orau, a thair gwobr Tony! Ar ôl goresgyn y West End a Broadway, mae’r ffenomenon theatraidd yn mynd ar ei daith fwyaf hyd yma.
Mae golygfeydd anhygoel a phypedwaith o’r radd flaenaf yn uno mewn digwyddiad theatraidd unigryw.
Everything about this production is amazing.
Breath-taking. Roar it out: this is a hit
Ar ôl storm epig yn y Cefnfor Tawel, caiff Pi ei adael ar fad achub gyda phedwar goroeswr arall – hiena, sebra, orangutan a theigr Bengal Brenhinol.
Yn seiliedig ar y ffenomenon byd-eang ac enillydd y wobr Man Booker, sydd wedi gwerthu dros 15 miliwn o gopïau ledled y byd, Life of Pi yw’r stori boblogaidd am daith epig o wydnwch a gobaith. Peidiwch â cholli sbectacl y West End a Broadway ar ei daith gyntaf o’r DU.
An extraordinary journey. Unmissable
The puppetry is out of this world
Canllaw oed: 8+
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 10 munud (yn cynnwys un egwyl)
Rhybuddion: Themâu marwolaeth, llofruddiaeth a chreulondeb i anifeiliaid. Mae'r perfformiad yn cynnwys, mwg, tarth, goleuadau sy'n fflachio a synau uchel.
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 19 Hydref, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd i'w gadarnhau.
CYNNIG I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Maw – Iau (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp.
CYNNIG I YSGOLION
Grwpiau o 10+, gostyngiad o £6, Maw – Iau (yn gymwys ar bob sedd).
Un tocyn athro am ddim am bob 10 myfyriwr.
Archebwch nawr a thalwch erbyn dydd Gwener 29 Medi.
I archebu, e-bostiwch gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk
MYFYRWYR
Gostyngiad o £4 Maw – Iau.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai fydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.