Yn dilyn llwyddiant premiere ar-lein a pherfformiad yn The Other Palace, mae Luna the Musical yn dod â “fersiwn cyngerdd” adref i Gymru.
Wedi’i osod yn North Dakota, mae Luna yn dilyn taith merch feichiog yn ei harddegau wrth iddi hi, a’r cymeriadau yn ei bywyd, herio ac archwilio eu hunaniaeth yn ystod cyfnod ansicr.
Mae’n stori ddoniol a chyflym am dyfu i fyny, gyda sgôr pop-roc cyfoes sy’n llawn egni a manylion.
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr 20 munud
Canllaw oed: 15+
Rhybuddion: Iaith gref, beichiogrwydd dan oedran a heb ei chynllunio, erthyliad, cyfeiriadau at fagu perthnasau amhriodol, trawsffobia, bwlio, casineb at fenywod
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.