Bydd Matthew Bourne’s Sleeping Beauty yn ailddeffro, gan ddathlu 10 mlynedd ers y perfformiad cyntaf yn Sadlers Wells, a werthwyd ar y raddfa gyflymaf yn hanes y cwmni.
Bellach wedi sefydlu ei hun fel un o hoff gynyrchiadau cwmni New Adventures, mae Sleeping Beauty wedi ennill gwobrau lu ac wedi hudo cynulleidfaoedd rhyngwladol ledled y DU a dros y byd.
Camwch i fyd hudolus o dylwyth teg a fampirod hudol, lle mae stori oesol da yn erbyn drwg yn cael ei droi ben i waered. Dyma stori serch uwch-naturiol sy’n sefyll yn gadarn ar draws y blynyddoedd. A fydd y Dywysoges Aurora yn darganfod ei gwir gariad unwaith eto?
“Thrills from start to finish. Utterly brilliant.”
Gyda sgôr bythgofiadwy gan Tchaikovsky, setiau a gwisgoedd ysblennydd, goleuo llawn mynegiant a stori gampus, mae cwmni dawnus New Adventures yn dod â’r chwedl boblogaidd yn fyw. Byddwch yn barod i deithio i ddyddiau heddychlon y cyfnod Edwardaidd hwyr hyd at y cyfnod presennol gyda’r stori ramant gothic drawiadol hon.
Canllaw oed: 5+ (dim plant dan 2 oed)
Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys goleuadau strôb. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
CYNNIG DAWNS
Gostyngiad o 15% pan fyddwch chi’n prynu tocynnau ar gyfer Rambert's Peaky Blinders, Matthew Bourne's Sleeping Beauty a Dada Masilo's The Sacrifice ar yr un pryd. Caiff y cynnig ei weithredu pan fyddwch chi’n ychwanegu tocynnau ar gyfer y tri pherfformiad at eich basged.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (2 bris uchaf). Aelodaeth.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Maw – Iau ar y 2 bris drutaf. Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£12 — Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464. Ar gael Mawrth – Iau ar seddi penodol.
CYNIGION DAN 16 A MYFYRWYR
Gostyngiad o £4. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Mawrth – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.