Yn dilyn premiere yn Llundain a pherfformiadau a werthwyd allan yn Birmingham, mae’r ffordd fwyaf ymdrochol o brofi stori ddiamser Knight ar ei ffordd i gymryd drosodd y DU. Mae cefnogwyr hirdymor y rhaglen deledu a chynulleidfaoedd sy’n newydd i Peaky yn gytûn yn eu brwdfrydedd dros y perfformiadau egnïol a theimladwy gan y cast cyfan, lle dydych chi byth yn siŵr a ydych chi mewn sioe ddawns neu gig roc.
Gan ddechrau yn y ffosydd yn Fflandrys, mae stori bersonol yn datblygu ym myd diwydiannol Birmingham ar ôl y rhyfel wrth i’r teulu Shelby wneud penderfyniadau sy’n pennu eu ffawd a chaiff Tommy ei ddenu gan Grace, newydd-ddyfodiad hynod.
“Thrillingly visceral, darkly beautiful and deeply moving”
Wedi’i hysgrifennu a’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan greawdwr Peaky Blinders Steven Knight, gyda choreograffi a chyfarwyddyd gan Gyfarwyddwr Artistig Rambert Benoit Swan Pouffer, mae’r sioe gyfareddol yma yn cyfuno dawns drawiadol ac athletaidd â dramateiddiad syfrdanol gan gwmni llawn Rambert gyda band byw, cerddoriaeth a gomisiynwyd yn arbennig gan Roman GianArthur a thraciau Peaky eiconig gan Nick Cave and The Bad Seeds, Radiohead, Anna Calvi, The Last Shadow Puppets, Frank Carter & The Rattlesnakes a Black Rebel Motorcycle Club.
"An experience not to be missed"
Uwch-gynhyrchwyr: Rambert, Robin Saunders a Simon Sinek. Wedi’i hysbrydoli gan y gyfres deledu Peaky Blinders a grëwyd gan Steven Knight. Mewn cydweithrediad â Caryn Mandabach Productions. Peaky Blinders © TM Caryn Mandabach Productions 2022, trwyddedwyd gan Caryn Mandabach Productions.
"Full of swagger and attitude"
Canllaw oedran: 15+
Mae'r sioe hwn yn seiliedig ar gyfres deledu sydd â chanllaw oedran o 15. Bydd peth gynrycholaeth o ffyrnigrwydd, rhyw a defnydd cyffuriau.
Goleuadau strôb.
Ergydion gwn byw a phyrotechneg ar y llwyfan.
Rhai cleciau uchel wedi’u recordio ac ychydig o gerddoriaeth uchel.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 10 munud, gan gynnwys un egwyl o 20 munud.
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 23 Mawrth, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Chandrika Gopalakrishnan.
Cynnig Aelodau
£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf).
Dod yn aelod.
Cynigion grŵp
O £4 i ffwrdd ar gyfer grwpiau 10+ (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp.
Ysgolion
Tocynnau £12, ac un sedd athro am ddim gyda phob 10 disgybl.
Ddim ar gael ar-lein, ebostiwch group.sales@wmc.org.uk
Yn gymwys ar seddi dethol Maw - Iau.
Cynnig dan 26
Tocynnau £12. Yn gymwys ar seddi dethol Maw - Iau.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dosraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.