Yn syth o’r carped coch i'r llwyfan, mae Miss Kiddy and the Cads yn dod â’ch hoff ganeuon i chi, wedi’u gorchuddio â glamor godidog a digywilydd-dra dirywiedig.
Maen nhw wedi diddanu a syfrdanu’r cynulleidfaoedd mwyaf craff a ffasiynol ar draws y byd gyda gormodedd a sain fywiog oes glasurol Hollywood. Gallwch chi ddisgwyl eich hoff ganeuon parti – o Bowie i Beyoncé – mewn arddull arbennig ac aflafar!
Yn y blaen o dan y sbotolau, bydd Miss Kiddy yn arwain y noson, yn odidog ac yn benderfynol yn ei bwriad i ddiddanu. Ei band, y Cads, yw’r goreuon yn eu maes, a byddan nhw’n dawnsio drwy’r nos. A pheidiwch ag anghofio Lil’ Missy – dawnsiwr tap penigamp – a fydd yn annog y gynulleidfa i ymuno â’r hwyl.
Efallai eich bod chi eisoes wedi gwylio eu perfformiadau ar This Morning a Loose Women ar ITV, eu clywed ar Loose Ends ar BBC Radio 4 neu eu gweld yn ar y llwyfan yn Underbelly, Camp Bestival a Gŵyl Gerddoriaeth Henley.
“If you like Hollywood mixed with Bowie and Beyoncé… try Miss Kiddy for size"
Amser dechrau: 8.30pm, 8pm drysau
Canllaw oed: 16+
Rhybuddion: Goleuadau sy'n fflachio, synau uchel
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.