Mae Morgan James, canwr ac actor sydd wedi ennill gwobrau, yn cyfuno stori ei fagwraeth fel bachgen sensitif yn byw mewn pentref glofaol bychan yn y 1980au gyda pherfformiad o ddetholiad o rhai o ganeuon gorau George Michael.
Yn dilyn rhediad hynod boblogaidd o sioeau yn The Crazy Coqs, un o leoliadau poblogaidd Llundain, mae Morgan wrth ei fodd yn cyflwyno’i sioe un-dyn ar ein llwyfan.
Gyda threfniant cerddorol gan Noam Galperin, bydd Morgan yn canu caneuon George fel trac sain i adegau pwysig yn ei fywyd ei hun, gan greu noson fythgofiadwy o chwerthin, adrodd straeon a cherddoriaeth ragorol.
“James simply commands the stage”
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Canllaw oed: 16+
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.