Perfformiad Ymlaciedig
Mae Aladdin yn ymrwymedig i greu profiad cyfeillgar a chynhwysol i gynulleidfaoedd. Ar ôl cynnal dau berfformiad cyfeillgar i awtistiaeth hynod lwyddiannus yn y Prince Edward Theatre yn Llundain, mae Aladdin yn falch i fod yn cyflwyno perfformiad ymlaciedig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 10 Ionawr.
Mae perfformiadau ymlaciedig wedi’u dylunio ar gyfer pobl ag awtistiaeth, anawsterau dysgu neu anghenion synhwyraidd neu gyfathrebol eraill, sydd efallai’n teimlo’n fwy cyfforddus mewn awyrgylch fwy ymlaciedig.
Mae croeso i unrhyw un sy’n teimlo y byddai’r perfformiad yma’n ateb eu gofynion, neu ofynion aelodau o’u teulu neu ffrindiau, i fynychu’r perfformiad.
Canllaw oedran: 6+ (dim plant dan 3 oed)
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser cychwyn:
Mer 6.30pm
Perfformiadau Ymlaciedig