Dim glamor. Dim gimigau. Dim esgus. Dim byd ond llais, yn canu am fuddugoliaethau a thrasiedïau bywyd. Pwy oedd Edith Piaf? A sut ddaeth hi i gynrychioli ysbryd Paris fel neb arall cyn neu ers hynny?
Roedd Christine Bovill yn casáu Ffrangeg yn yr ysgol; ffaith roedd hi’n hapus i’w rhannu ag unrhyw un a fyddai’n fodlon gwrando, nes iddi ddarganfod record Edith Piaf ar hap. Byddai hyn yn foment arloesol ym mywyd y ferch 14 oed o Glasgow – a anfonodd Christine ar drywydd tyngedfennol drwy amser, i fyd eicon cerddorol mwyaf Ffrainc.
Mae PIAF, sy’n llawn gymaint o ddrama ag y mae’n deyrnged gerddorol, yn talu teyrnged theatraidd i un o eiconau mwyaf hoffus Ffrainc; gan ddathlu rhai o’i chaneuon mwyaf adnabyddus, wedi’u plethu â stori Piaf, a thaith hynod Christine ei hun yn y byd chanson.
Er gwaethaf tristwch stori Piaf, bydd hon yn noson o ddathlu – stori o fuddugoliaeth dynol dros drasiedi; ac, wrth wraidd y noson, perfformiad unigryw gan fenyw sy’n cael ei hystyried yn un o ddehonglwyr gorau caneuon Ffrengig.
“Bovill’s incarnation of Piaf is too astonishingly perfect, her voice tails off delicately like a spider’s thread to devastating effect”
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Canllaw oed: 16+
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.