Mae Wilma Ballsdrop yn ôl eto gyda'i sioe wych Prejudice to Pride!
Mae Wilma Ballsdrop, yr hogan dal o’r Cymoedd, wedi profi llwyddiant ysgubol ar sin cabaret Llundain ers symud yno, ac wedi bod yn berfformwraig breswyl yng nghanolfannau eiconig megis Crazy Coqs Piccadilly a’r Hippodrome, Leicester Square.
Roedd hi hefyd yn rownd derfynol London Pride’s Got Talent ac fe’i henwebwyd ar gyfer gwobr Sioe Cabaret Gorau yng Ngwobrau Boyz.
Yn ei sioe newydd, mae Wilma’n dychwelyd i'w dinas enedigol i gymryd golwg ar ei bywyd, o’i phlentyndod ym Mhontypridd i lwyfannau disglair y West End, a hynny drwy’r gerddoriaeth sydd wedi bod yn drac sain i'w bywyd.
Gyda chaneuon a’u hysgrifennwyd pan oedd gwrywgydiaeth yn dal i fod yn anghyfreithlon, gan artistiaid megis Noel Coward, Cole Porter, ac un o feibion Caerdydd, Ivor Novello. A chaneuon gan Dusty, Freddie ac Elton, a rhai o sêr eiconig, balch yr wythdegau a thu hwnt.
Disgwyliwch ddagrau a chwerthin, a dewch â’ch esgidiau dawnsio!
Dechrau amser: 8.30pm, drysau 8pm
Canllaw oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref a goleuadau sy'n fflachio.
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.