Dau ddarn o waith dawns corfforol gwefreiddiol fydd yn cyflymu curiad eich calon.
Mae Marcos Morau (a greodd Tundra) yn dychwelyd gyda’r Waltz atgofus, moethus a chwim.
Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig.
Tra bydd Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY) yn gwneud i chi eisiau codi a dawnsio gyda Say Something, gwledd weledol a sonig o symudiad a bîtbocsio, gan archwilio’r hyn mae’n ei olygu i ‘gynrychioli’, a’r disgwyliadau cynyddol i gael llais.
Ymunwch â CDCCymru am noson rymus o ddawns.
Rhan o NAWR, tymor 22/23 Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer Gwyliwch Dawns cyn y perfformiad ar 11 Tachwedd a dewch i cael cip unigryw y tu ôl i’r llen ar y ffordd y mae ein dawnswyr yn paratoi oriau yn unig cyn iddynt lwyfannu sioe.
Amser dechrau:
Iau 9 + Gwe 10 7.30pm
Sad 11 2.30pm
Maw 21 + Mer 22 7.30pm
Iau 23 2.30pm
Hyd y perfformiad: 1 awr 30 munud (gyda un egwyl)
Oed: Bob oed
Rhybuddion: Goleuadau sy’n fflachio