Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Radio Platfform Presents

Darllediad Byw + Graddio

12 Gorffennaf 2023

Cabaret

Ymunwch â Radio Platfform ar gyfer eu digwyddiad annibynnol cyntaf erioed, darllediad byw o’u podlediad ‘Radio Platfform Presents’ sy’n cyd-fynd â seremoni graddio’r garfan ddiweddaraf o hyfforddeion.  

Yn ystod y podlediad, byddan nhw’n sgwrsio am y byd celfyddydau a chreadigol i bobl ifanc ac yn gofyn y cwestiynau sy’n bwysig i chi. Beth yw’r cyfleoedd i bobl ifanc yn y celfyddydau? Sut allwn ni droi'r sgiliau mae pobl ifanc yn eu dysgu yn gyfleoedd swyddi? Sut allwn ni barhau datblygiad pobl ifanc yn y diwydiannau creadigol? Bydd cyfle hefyd i glywed am y gwaith mae Radio Platfform ynghyd â Chanolfan Mileniwm Cymru a’r Criw Ieuenctid yn ei wneud i ymgysylltu â phobl greadigol ifanc. 

Bydd bwyd, diodydd a cherddoriaeth fyw gan artistiaid datblygol i’w cyhoeddi, ac ar ôl y digwyddiad bydd awr o amser rhwydweithio er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc gysylltu â phobl greadigol ifanc eraill a sgwrsio ag amrywiaeth o aelodau o’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol. 

Amser dechrau: 7pm (drysau 6.30pm)

Oed: 16+

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen tocyn. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich tocyn ymlaen llaw i osgoi unrhyw siom.  

Cyflwynir yn

Cabaret