Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Serenade Forget-me-not Chorus

Stiwdio Weston

4 Mehefin 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Serenade Forget-me-not Chorus {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Weston MM/DD/YYYY 15 event-1769

Serenade Forget-me-not Chorus

4 Mehefin 2023

Stiwdio Weston

Wedi'i ysbrydoli gan opera newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru, Blaze of Glory! mae’r Forget-me-not Chorus yn archwilio llawenydd a phŵer cadarnhaol canu cymunedol i gefnogi a chynnal y rhai sy'n byw gyda dementia a'r ffrindiau a'r teulu sy'n caru ac yn gofalu amdanynt.

Yn cynnwys comisiwn newydd gan y cyfansoddwr David Harrington a'r libretydd Emma Jenkins, mae Serenade - I'm there for you and you for me, So that we can be the best that we can be yn dathlu pŵer a gallu cân i godi uwchlaw rhwystrau.

Mae'r gwaith corawl hwn yn gyfuniad arbennig o gerddoriaeth newydd ar gyfer llais unigol a chwechawd, wedi'i blethu â barddoniaeth a chaneuon poblogaidd sy'n bodoli eisoes. Mae'r libreto yn amlygu rhinweddau cymuned a chymrodoriaeth. Yn perfformio ochr yn ochr â'r corws a'r unawdwyr bydd aelodau o Gerddorfa WNO.

Cenir yn Saesneg

Amser dechrau: 14:30pm

Hyd y perfformiad: Tua 50 munud heb egwyl

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston