Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Steampunk Burlesque

Clwb Cabaret Caerdydd

Cabaret

10 Chwefror 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Steampunk Burlesque {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1624

Cabaret

Steampunk Burlesque

Clwb Cabaret Caerdydd

10 Chwefror 2023

Cabaret

Ymunwch â’n cynghrair o berfformwyr bwrlésg eithriadol i ddarganfod ffuglen stêmpync gyda Foo Foo Labelle a’i ffrindiau yng Nghlwb Cabaret Caerdydd gan gynnwys Betty Blue Eyes, Kitty Katastrophy, Oola Pearl a Goldie Luxe.

Gydag wyneb clown a dewrder jynci adrenalin, Velma Von Bon Bon fydd eich cyflwynydd Fictorianaidd bywiog ar y noson. Hefyd, bydd Gruffalo Bill a Wrangler Russ yn eich tywys i’r Gorllewin Gwyllt, sy’n llawn clecian chwipiau a thaflu cyllyll.

Velma Von Bon Bon

Gyda hoffter o ganeuon yr 80au a phethau hollol hurt, mae Velma Von Bon Bon wedi bod yn cyflwyno ei brand unigryw o ddwli bwrlésg ers dros ddegawd. Gan ddifyrru cynulleidfaoedd ar draws y DU ac Ewrop, mae wedi datblygu enw da fel coctel cryf o gomedi a glamor. O’i meddwl llawn hiwmor daw’r perfformiwr syrcas meddw Natalia Kalashnikov, y gyflwynwraig eiconig. Mae wedi cyrraedd y rhestr o’r 50 o berfformwyr bwrlésg gorau yn y byd ddwy flynedd yn olynol, a’r rhestr o 10 o berfformwyr bwrlésg gorau yn y DU sawl gwaith. Bydd eich seddi yn siŵr o wlychu…

"Ha, ha, ha" – Dyfyniad gan aelod o’r gynulleidfa

 

Betty Blue Eyes

 

Perfformiwr bwrlésg yw Miss Betty Blue Eyes, enillydd y Goron Brydeinig yng Ngemau Bwrlésg y Byd 2016, sydd wedi bod yn creu straeon annisgwyl ar gyfer cynulleidfaoedd bwrlésg a chabaret ers 2009. Mae’n gameleon cabaret comedi sydd ag actau unigryw yn llawn cymeriadau rhyfedd, hanesion hynod a chomedi gyfareddol. O syrpréis annisgwyl Reverse Strip i danbeidrwydd ei hact arobryn Behind the Candel-a-bra (teyrnged i arwr Las Vegas, Liberace), mae gan Betty wisg i unrhyw achlysur.

(A cyn i chi ofyn… oes mae llygaid glas ganddi). 

FooFoo Labelle

Bob amser yn hurt, yn aml yn hudolus ac weithiau’n wyllt, mae FooFoo wedi bod yn perfformio ers dros 30 mlynedd.

FooFoo, sy’n ddawnswraig, yn goreograffydd, yn gynhyrchydd, yn gantores, yn fam ac yn berchennog busnes, yw sylfaenydd Clwb Cabaret Caerdydd. Ers 2008 mae wedi bod yn creu sioeau a dosbarthiadau lle mae croeso i berfformwyr o bob oed a phrofiad. 

Oola Pearl

Y gowntes fwrlésg gyffrous gyda cherddoriaeth yn ei henaid, rym yn ei gwythiennau a choesau hir!  

Mae Oola yn aelod balch o deulu FooFoo LaBelle yng Nghlwb Cabaret Caerdydd lle mae’n perfformio fel unawdydd ac fel rhan o’r cwmni sioeferched cynhwysol anhygoel. Fel storïwr penigamp, mae’n mwynhau creu cymeriadau cofiadwy a mynd â chynulleidfaoedd ar deithiau digywilydd mewn ffordd drwsiadus.  

The Steampunk Cowboys

Mae Gruffalo Bill a Wrangler Russ yn ymgodymu â byd rhyfedd y Gorllewin Gwyllt, gan ddangos beth y gellir ei wneud mewn cyfnod o ddyfeisio a dyfeisgarwch.

 

Mae’r ddau yn berfformwyr syrcas proffesiynol arobryn o Dde Cymru ac maen nhw’n dod ag elfen o gomedi i berygl gyda steil a chyfaredd. Fel yr act syrcas cyntaf i berfformio sioe taflu cyllyll at darged fyw yng Ngŵyl Glastonbury ar y llwyfan syrcas ac ym mhabell Cabaret Mavericks, maen nhw wedi dangos i’r byd beth y gellir ei wneud gyda darn o bren ac ychydig o spaghetti!

Goldie Luxe

Bydd Goldie Luxe yn mynd â chi ar daith o straeon hudol. Mae’n cael hwyl gyda’r clasuron ac yn ymhyfrydu wrth ychwanegu coctel heintus o gomedi at ei pherfformiadau.

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm

Canllaw oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy'n fflachio a synau uchel.

IECHYD DA!

Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret