Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Steffan Alun: The Bubble

Cabaret

16 Chwefror 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Steffan Alun: The Bubble {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1625

Cabaret

Steffan Alun: The Bubble

16 Chwefror 2023

Cabaret

Comedi stand-yp gwych gan yr optimist o Gymro, Steffan Alun, sy’n siarad am ynysoedd folcanig, ffrindiau o safon wael a phlant pobl eraill.

The Bubble yw sioe newydd sbon y digrifwr o Gymru Steffan Alun, seren BBC Sesh, BBC Radio Wales ac S4C a werthodd bob tocyn yng Ngŵyl Caeredin (sy'n cyfri fel taith dramor!), ac mae bellach yn dod i Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae'r awr newydd ddoniol hon yn dilyn un dyn deurywiol yn cwestiynu dod â phlentyn i'r byd, sut i uniaethu â phlant pobl eraill pan nad ydych chi am gael un – ac a yw hi'n ddiogel dod â phlentyn i'r byd gyda'r holl losgfynyddoedd hyn o gwmpas y lle?

Mae'n sioe hyfryd, cynnes a hwyliog am greu swigen i chi'ch hun, pwy all ei byrstio, a beth i'w wneud pan fydd eich swigen yng nghysgod diwedd y byd. Noson arferol arall o gomedi a dweud y gwir.

Gyda chefnogaeth gan Cerys Bradley.

"MY FACE HURT FROM LAUGHING"

Adborth gan y gynulleidfa, EDINBURGH FRINGE

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm

Oed: 14+

Rhybuddion: Iaith gref.

IECHYD DA!

Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret