Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

TEDx Bute Street

Programmed by Donna Ali

Cabaret

24 Ebrill 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London TEDx Bute Street {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1727

TEDx Bute Street

Programmed by Donna Ali

24 Ebrill 2023

Cabaret

Rydyn ni’n credu bod cynrychiolaeth gadarnhaol yn bwysig, ac felly rydyn ni eisiau arddangos rhai o’r bobl ysbrydoledig o’r mwyafrif byd-eang sy’n gwneud gwaith anhygoel yma yng Nghaerdydd.

Ymunwch â ni mewn digwyddiad a fydd yn herio eich meddylfryd, yn agor sgwrs, ac yn eich cymell i fod yn rhagorol hefyd. Pwy a ŵyr, efallai y clywch chi syniadau gwych sy’n werth eu rhannu.

Speakers

Bianca Ali - Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Ymgyrchydd

Cynhyrchydd cynorthwyol, ymgyrchydd ac awdur yw Bianca Ali. Mae ei chredydau’n cynnwys cynhyrchydd cynorthwyol ar gynhyrchiad NTW ‘Circle of Fifths’ a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2022 yn Nhŷ Dawns Canolfan Mileniwm Cymru. Roedd Bianca hefyd yn aelod arweiniol o’r ymgyrch Mae Bywydau Duon o Bwys, gan alw ar Lywodraeth Cymru a sefydliadau i adolygu eu polisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant presennol er mwyn gwneud Cymru’n wlad wrth-hiliol. Mae hi’n artist gair llafar dawnus, ac mae wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau i roi llwyfan i feirdd ac artistiaid. O ganlyniad i’w doniau creadigol, roedd Bianca’n aelod o ddigwyddiad Ladies of Rage o’r enw Harddwch Du, gan gyd-ysgrifennu a pherfformio The Struggle is Real.

Chantelle Haughton - Addysgwr/Cyfarwyddwr DARPL

Mae Chantelle Haughton – Cyfarwyddwr DARPL (Menter Llywodraeth Cymru ar gyfer Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol Cymru gyfan dan arweiniad partneriaid â phrofiad byw a phroffesiynol), yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol, yn Brif Ddarlithydd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar, Prifysgol Met Caerdydd, ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA). Chantelle sy’n gyfrifol am sefydlu a chydlynu Canolfan Ddysgu Awyr Agored CMet. Mae Chantelle yn Gadeirydd Grŵp Llywio Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, yn Aelod o’r Gweithgor Gweinidogol ar gyfer Hanes Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a Chynefin Cwricwlwm i Gymru, yn gyn-Gadeirydd ar Bwyllgor Rheoli Black History Cymru (2020-22), yn Is-Gadeirydd Rhwydwaith BAMEed Cymru, yn Ddirprwy Gadeirydd grŵp gorchwyl Siarter Cydraddoldeb Hil Met Caerdydd ac yn Is-Gadeirydd Rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar Cymru.

Joy Ogeh-Hutfield - Prif Swyddog Gweithredol a Hyfforddwr Trawsnewid Bywyd

Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd JTILA. Hyfforddwr rhyngwladol, awdur, ac ymgynghorydd arweinyddiaeth medrus perfformiad uchel, sydd â hanes deinamig o lwyddiant yn darparu datblygiad arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae’n arbenigwr ym maes Arweinyddiaeth wedi’i Yrru gan Ddiben, Meddylfryd, Gweledigaeth a Meddwl Strategol, Deallusrwydd Emosiynol, ac arwain a rheoli Amrywiaeth a Chynhwysiant ar lefel uwch reoli ar draws ystod eang o sefydliadau ym Mhrydain, Ewrop, UDA ac Affrica.

Mariyah Zaman - Cyfarwyddwr Creadigol / Sylfaenydd Now in a Minute Media

Graddiodd Mariyah Zaman â BA (Anrh.) Ysgrifennu Creadigol a’r Cyfryngau o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a hi yw cyfarwyddwr creadigol a chyd-sylfaenydd Now In A Minute Media, sef llwyfan cyfryngau ar-lein sy’n hyrwyddo lleisiau Mwslimaidd o Gymru ac sy’n annog cyfranogiad Mwslimiaid yn y diwydiannau creadigol. O ran ei gwaith, cydlynydd cyfryngau cymdeithasol yw Mariyah, ac mae hefyd yn awdur llawrydd y mae ei gwaith yn amrywio o farddoniaeth i erthyglau nodwedd a newyddion, gydag angerdd am archwilio diwylliant ifanc a ffasiwn Mwslimaidd.

Michael Adeniya - Prif Swyddog Gweithrediadau UK Black Business Week

Strategydd digwyddiadau busnes-i-fusnes masnachol clodwiw yw Michael Adeniya. Ar hyn o bryd mae’n Brif Swyddog Gweithrediadau i UK Black Business Week, sef y digwyddiad mwyaf ym Mhrydain ac Ewrop ar gyfer entrepreneuriaid Duon, gweithwyr proffesiynol gyrfaol Duon a chynghreiriaid i’r gymuned ddu. Yn ei swydd flaenorol fel Cyfarwyddwr Portffolio yn adran gwyddorau bywyd Clarion Events, fe arweiniodd dwf refeniw bron i 10x dros gyfnod o wyth mlynedd, gan gyflwyno sawl ffrwd refeniw a lansiadau cynnyrch rhyngwladol ledled Ewrop, Asia ac America.

Rachel Clarke - Dirprwy Bennaeth

Rachel yw sylfaenydd Apex Educate, cyd-sylfaenydd Promote Equality ac mae’n Ddirprwy Bennaeth mewn ysgol yn nghanol Llundain. Mae’n aelod o Dîm DARPL, ar ôl creu’r gyfres Dysgu Proffesiynol i Gymru ar gyfer Uwch Arweinwyr a Llywodraethwyr. Mae Rachel yn gweithio gydag ysgolion, lleoliadau addysgol a chwmnïau sy’n ceisio dod yn wrth-hiliol a gweithio tuag at wireddu cyfiawnder hil. Mae gallu Rachel i hyfforddi staff ar bob lefel ym maes gwrth-hiliaeth wedi datblygu dealltwriaeth pobl o degwch ac wedi’u cefnogi ar eu taith wrth-hiliaeth.

Ricardo Erasmus - Mentor a Hyfforddwr Bywyd

Mae Ricardo Erasmus, cyn chwaraewr pêl-droed lled-broffesiynol, yn dod o Cape Town, Mitchell's Plain, De Affrica yn wreiddiol. Mae’n hyfforddwr bywyd trawsnewidiol, yn fentor ieuenctid, yn siaradwr cymhelliant, ac yn gyflwynydd radio, ac mae ganddo dros ddau ddegawd o brofiad mewn gwaith ieuenctid yn Cape Town, yr Unol Daleithiau, a gwledydd Prydain. Mae’n rhannu ei stori o wytnwch a phenderfyniad wrth dyfu i fyny ar y Cape Flats, ac mae’n ysbrydoli eraill i gyflawni eu llawn botensial drwy symud eu meddylfryd ac ymdrechu i lwyddo yn erbyn y disgwyl. Mae’n eiriolwr angerddol dros fentora, ac mae’n ymroddedig i helpu eraill i gyflawni eu llawn botensial.

Shavanah Taj - Ysgrifennydd Cyffredinol BME, TUC Cymru

Shavanah Taj yw Ysgrifennydd Cyffredinol BME cyntaf TUC Cymru. Ymunodd â TUC Cymru ym mis Chwefror 2019 o Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), lle mae wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ers 2013, ar ôl gwasanaethu fel swyddog undeb cenedlaethol ers 2012. Mae Shavanah yn ymgyrchydd angerddol ac mae’n aml yn traddodi areithiau mewn trafodaethau bord gron a phrotestiadau ar faterion fel gwrth-hiliaeth, hawliau dynol, hawliau menywod, cyflog teg, gwaith teg, a chreu economi werdd deg a chynaliadwy sy’n cyflawni newidiadau cadarnhaol a hirsefydlog i weithwyr a’r cymunedau maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddynt.

Sy Joshua - Arbenigwr Cydraddoldeb Hil/Fideograffydd

Mae Sy yn defnyddio pŵer adrodd straeon i hysbysu, perswadio a herio sefydliadau tuag at ddyfodol gwrth-hiliol. Wedi’i eni ac yn byw yn Ne Cymru, mae Sy wedi gweithio’n helaeth mewn sawl lleoliad yn arwain prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol clodwiw Llywodraeth Cymru sy’n mynd i’r afael ag allgáu ac sy’n gwella mynediad i bobl ifanc ac oedolion ym meysydd cyflogaeth, addysg ac iechyd. Yn Bennaeth Gweithrediadau yn elusen Brydeinig Race Equality First yn flaenorol, mae Sy wedi gweithio’n agos gyda phobl sydd wedi profi gwahaniaethu ar sail hil ac wedi defnyddio eu profiadau i gynorthwyo sefydliadau i ddeall pwysigrwydd mynd i’r afael â hiliaeth systemig yn y gweithle. Mae Sy bellach yn arwain ar gyflawni ymyriadau gwrth-hiliaeth sy’n creu newid cadarnhaol yn yr RSPB. Mae Sy yn eistedd ar Banel Goruchwylio Annibynnol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru drwy fynd i’r afael â gwahaniaethu systemig a’r anfanteision a brofir.

Yusuf Ibrahim - Addysgwr

Mae Yusuf Ibrahim yn arweinydd addysgol amlwg yng Nghymru. Mae’n angerddol am wella rhagolygon arweinyddiaeth pobl o bob cefndir, yn enwedig pobl o gefndiroedd wedi’u tangynrychioli. Mae’n un o’r arweinwyr uchaf o leiafrif ethnig yn y sector cyhoeddus ac mae wedi gweithio ar lefel genedlaethol, gan gyfrannu at y gwaith o gynllunio a chyflawni asesiadau yn ystod y pandemig. Ar hyn o bryd mae’n arwain Prosiect Cwricwlwm Gwrth-Hiliaeth sy’n torri tir newydd ar draws y sector colegau, yn ogystal ag arwain meysydd cwricwlwm a digidol sylweddol yn un o’r colegau mwyaf ym Mhrydain, Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae’n drawsnewidiwr digidol, ac mae’n benderfynol o sicrhau bod technolegau newydd yn galluogi newid cadarnhaol, gan ganiatáu i fwy o bobl gael mynediad at gyfleoedd i ddysgu a gwneud cynnydd.  Mae hefyd yn arweinydd ar sail gwerthoedd, ac mae taith Yusuf wedi mynd ag e i Lundain, Bryste a Chaerdydd, gan adeiladu timau cefnogol i ateb anghenion dysgwyr, staff a chymuned.

Amser dechrau: 6pm

Cyflwynir yn

Cabaret