Casgliad o berfformiadau anneuaidd di-drefn yw The Enby Show sy’n dod â goreuon cabaret ynghyd, gan greu sioeau amrywiaethol sy’n llawn gwychder anneuaidd mewn actau unigol a grŵp ysblennydd.
Maen nhw wedi perfformio ar hyd a lled y wlad ar lwyfannau mawr a bach; o wyliau Pride cenedlaethol i fariau seler, o lwyfannau’r West End i leoliadau caraoce, maen nhw wedi ymddangos mewn pob math o ofod gan arddangos eu rhagoriaeth anneuaidd.
Disgwyliwch yr annisgwyl a wfft i’r system.
A gwesteion arbennig: Justin Drag, Esther Parade, Leila Navabi
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy'n fflachio a synau uchel.
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.