Wedi’i gyflwyno gan Donna Marie, dyma sioe ryngweithiol fyw lle y gallwch fforio canu.
Hefyd yn serennu Gavin Sheppard a Louise Halliday, byddwch chi ar eich traed yn dawnsio ac yn canu gyda'r cast arbennig i rai o ganeuon mwyaf poblogaidd sioeau cerdd a ffilmiau gorau’r byd. Gyda chaneuon o The Greatest Showman, We Will Rock You, Mamma Mia, The Sound of Music, The Bodyguard a Dirty Dancing, byddwch yn siŵr o gael ‘The Time of your Life’!
Felly, gwisgwch eich sgidiau dawnsio, twymwch y llais, a dod i fwynhau caneuon fel ‘Let it go’ a ‘Time Warp’ yn noson The Greatest of Shows.
Rydyn ni’n annog y gynulleidfa i gymryd rhan a chaniateir gwisg ffansi.
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Canllaw oed: 14+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.