Mae The TikTok Show yn addo bod yn noson sy’n llawn chwerthin ac adloniant.
Gyda Bailey J Mills, seren TikTok â llawer o ddilynwyr sydd wedi dod yn boblogaidd am eu cynnwys comedïaidd ar y llwyfan.
Yn perfformio ochr yn ochr â Bailey bydd y sêr TikTok o Gymru, Ellis Lloyd Jones a Jordropper!
Mae The TikTok Show yn cynnig cyfle i weld y sêr yma o’r cyfryngau cymdeithasol yn perfformio’n fyw, gan arddangos eu talentau a’u personoliaethau unigryw mewn ffordd sydd ond yn bosibl mewn digwyddiad byw. O ddawns i sgetshis comedi, mae gan y sioe yma rywbeth i bawb.
Gyda Justin Drag yn cyflwyno, gall y gynulleidfa ddisgwyl noson yn llawn chwerthin ac egni.
P’un a ydych chi’n wyliwr brwd o TikTok neu’n chwilio am noson o adloniant, The TikTok Show yw’r lle i fod. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld Ellis Lloyd Jones, Jordropper, Justin Drag a Bailey J Mills ar y llwyfan gyda’i gilydd mewn noson sy’n siŵr o fod yn fythgofiadwy.
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 8pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.