Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A collage of drag queens and musicians from Vaguely Artistic and House of Deviant

Vaguely Deviant: The Office Christmas Party

Cabaret

16 Rhagfyr 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Vaguely Deviant: The Office Christmas Party {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1913

Cabaret

Vaguely Deviant: The Office Christmas Party

16 Rhagfyr 2023

Cabaret

Daeth gŵyl y baban â gwên nôl i'r byd, ac mae doli fach yn eistedd mor ddel ar frig y pren!

Felly dewch i mewn i'n tŷ a rhoi tinsel ar y goeden. Nid tawel nos fydd hi ‘leni. Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd a mwynhau Nadolig Vaguely Deviant!

Ymunwch â ni am drydydd rhifyn strafagansa arddangos House of Deviant (Fflamingo) a Vaguely Artistic (Hijinx), lle mae anhrefn a gliter yn teyrnasu! Gwisgwch eich dillad parti gorau a’ch ‘sgidiau dawnsio, achos, yn ôl pob sôn, mae gan ellyll Sion Corn wobrau i bawb sydd ar y rhestr ddymunol a drwg...

Gwyddom mai’r cyfan sydd ei angen arnoch y Nadolig yma yw... Vaguely Deviant: The Office Christmas Party!

VAGUELY ARTISTIC

Band ffync, blues, soul, pop, roc a phync mewnol Hijinx yw Vaguely Artistic. Gan ysgrifennu eu traciau gwreiddiol eu hunain a’u rhannu yn uchel ac yn falch, maen nhw’n chwarae popeth o The Beatles i Iggy Pop a Reef. Maen nhw wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, sydd ar gael ar Bandcamp a phob gwasanaeth ffrydio mawr. Dydych chi erioed wedi clywed dim byd tebyg!

HOUSE OF DEVIANT

House of Deviant yw’r unig gwmni drag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae eu poblogrwydd wedi tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020 ac maen nhw’n brosiect a gyd-gynhyrchir yn Ne Cymru sy’n defnyddio perfformiadau drag fel ffordd o archwilio hunan-barch, hyder ac annibyniaeth i oedolion ag anableddau dysgu. Maen nhw’n ffyrnig, yn anhygoel ac yn wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi’i weld o’r blaen!

Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm

Oed: 15+

Rhybuddion: Iaith gref

IECHYD DA!

Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret