Wedi colli allan ar docyn Eurovision? Peidiwch â phoeni, gallwn ni helpu!
Chi’n meddwl bod Eurovision yn cwiar? Wel, mae hyd yn oed yn fwy cwiar nawr!
Dyma Eurovision gyda breninesau, coctels a mwy o newidiadau cywair na Mariah Carey adeg y Nadolig.
Dewch i wylio gyda’r breninesau o House of Deviant lle byddwn ni’n dod ynghyd gyda cherddoriaeth ac yn cefnogi ein hoff wlad, a lle bydd pobl i roi cwtsh i chi pan fyddwn ni’n gweld y DU yn cael nil pwah (je nais parlez vous francais).
Rhybudd: gall gynnwys anhrefn, gemau yfed a chromosomau ychwanegol.
XXY
Y Deviants
House of Deviant yw’r unig gwmni drag yng Nghymru i bobl sydd ag anableddau dysgu. Mae eu poblogrwydd wedi tyfu ers 2021 ac maen nhw’n brosiect a gynhyrchir ar y cyd yn Ne Cymru sy’n defnyddio perfformiadau drag fel ffordd o archwilio hunan-barch ac ymreolaeth gydag oedolion ag anableddau dysgu sydd fel arall yn gallu cael anawsterau gyda materion fel ynysigrwydd cymdeithasol a phobl yn gwrando ar eu barn.
Amser dechrau: 7.30pm, drysau 6.30pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.