Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Jesus Christ Superstar

29 Ionawr – 3 Chwefror 2024

Theatr Donald Gordon

Albwm a ysbrydolodd chwyldro. Datguddiad a newidiodd y byd. Ailddyfeisiad ar gyfer y mileniwm yma. 

Mae Timothy Sheader (Crazy for You, Into the Woods) yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad gafaelgar newydd yma o’r ffenomenon byd-eang eiconig, Jesus Christ Superstar, sy’n dod i Gaerdydd am wythnos yn unig.   

Wedi’i lwyfannu’n wreiddiol gan Regent’s Park Open Air Theatre yn Llundain, enillodd y cynhyrchiad yma wobr Olivier yn 2017 am ‘Best Musical Revival’, a chafodd adolygiadau ac anrhydeddau digynsail. 

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

“SPRINKLING OF GENIUS SENDS STYLISH ‘SUPERSTAR’ SOARING"

Evening Standard

Wedi’i goreograffu gan Drew McOnie (King Kong, Strictly Ballroom), gyda cherddoriaeth a geiriau gan Andrew Lloyd Webber a Tim Rice, mae Jesus Christ Superstar wedi’i osod yn ystod cyfres eithriadol o ddigwyddiadau yn wythnosau olaf bywyd Iesu Grist, fel y gwelir drwy lygaid Jwdas. Gan adlewyrchu’r gwreiddiau roc a ddiffiniodd cenhedlaeth, mae’r sgôr yn cynnwys I Don’t Know How to Love Him, Gethsemane a Superstar. 

Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y sioe gerdd wych, gyffrous a nefolaidd yma. 

Canllaw oed: 10+ 
Nodwch fod y perfformiad yma yn cynnwys themâu aeddfed a phortreadau o drais.

Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 30 munud yn cynnwys egwyl

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Nifer cyfyngedig o lefydd. Dod yn aelod.

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 ar y 2 bris uchaf, LlunIau. Dyddiad talu grwpiau 30 Hydref 2023. Trefnu ymweliad grŵp.

POBL O DAN 16

Gostyngiad o £5 ar y 2 bris uchaf, Llun – Iau. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

MYFYRWYR

Gostyngiad o £5, Llun  Iau. 

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon