Mae creawdwyr The Play That Goes Wrong Yn dychwelyd gyda thrychineb catastroffig arall!
Yn dilyn eu llwyddiant arobryn gyda The Play That Goes Wrong a’r gyfres deledu ar y BBC The Goes Wrong Show, mae Mischief yn dychwelyd gyda’u fersiwn dros ben llestri o glasur diamser, llwyddiant ysgubol y West End Peter Pan Goes Wrong.
Mae aelodau’r Cornley Polytechnic Drama Society yn ôl ar y llwyfan, yn brwydro â phroblemau technegol, damweiniau hedfanol a dadleuon ymhlith y cast wrth iddyn nhw geisio cyflwyno stori boblogaidd J.M Barrie. Ond a fyddan nhw’n cyrraedd Neverland?
Mae brand unigryw Mischief o gomedi yn apelio at bawb. Dewch i’w gweld nhw yng Nghaerdydd a byddwch yn barod am antur enfawr!
"RIOTOUSLY FUNNY. AN ABSOLUTE MUST SEE"
"A FEAST OF SUMPTIOUS SILLINESS"
Canllaw oed: 8+
Hyd y perfformiad: tua 2 awr yn cynnwys un egwyl
Amser dechrau:
Llun - Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Argaeledd cyfyngedig. Ymaelodi.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+, gostyngiad o £3 neu fwy ar y 2 bris uchaf, Maw i Iau. Dyddiad talu grwpiau 23 Hydref 2023. Trefnu ymweliad grŵp.
POBL DAN 16
Gostyngiad o £3 ar y 2 bris uchaf, Llun – Iau. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
MYFYRWYR
Gostyngiad o £3 ar y 2 bris uchaf.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.